Neidio i'r cynnwys

Blaendulais

Oddi ar Wicipedia
Blaendulais
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,123, 2,022, 2,032 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,165.21 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7654°N 3.7113°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001029 Edit this on Wikidata
Cod OSSN820088 Edit this on Wikidata
Cod postSA10 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUCarolyn Harris (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaendulais[1] (Saesneg: Seven Sisters).[2] Saif tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd, ar y briffordd A4109 a ger Afon Dulais, sy'n tarddu ychydig i'r gogledd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,032.

Ardal lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gan Evan Evans-Bevan yn 1875, a chafodd yr enw Seven Sisters Colliery ar ôl saith merch Evans-Bevan. Yn 1945 roedd y lofa'n cyflogi 759 o ddynion. Agorwyd nifer o byllau glo eraill; Nant-y-Cafn neu Dillwyn yn 1884, Henllan 1911 a Brynteg yn 1885. Caewyd glofa'r Seven Sisters yn 1963.

Daw'r gantores a'r gyfansoddwraig, Bronwen Lewis o'r pentref. Mae Lews yn gyflwynydd radio ac yn canu a pherfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bu hi hefyd yn feirniad ar gyfres gyntaf y rhaglen dalent boblogaidd, Y Llais.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Blaendulais (pob oed) (2,123)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Blaendulais) (469)
  
22.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Blaendulais) (1846)
  
87%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Blaendulais) (356)
  
41.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
  3. ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]