Neidio i'r cynnwys

Boduan

Oddi ar Wicipedia
Boduan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9°N 4.5°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH323377 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddGwynedd Maldwyn
Etholaeth y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Eglwys Boduan Sant

Pentref bychan a phlwyf yn Llŷn, Gwynedd, yw Boduan ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau: Bodfuan neu'r ffurf hynafiaethol Bodfean); cyfeiriad grid SH323378). Mae'n rhan o gymuned Buan. Gorwedd Boduan yng nghanol Llŷn ar yr A497, tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r de-ddwyrain a Nefyn i'r gogledd-orllewin.

Enwir plwyf ac eglwys Boduan ar ôl Sant Buan, un o wyrion Llywarch Hen yn ôl traddodiad; ni wyddom dim arall amdano. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio'n ôl i 1760, pan godwyd eglwys newydd ar y safle, a'r 1840au pan atgyweirwyd yr adeilad hwnnw yn drwyadl ar gryn draul, diolch i nawdd y Wynniaid.[1] Mae'n eglwys fawr iawn am bentref mor fychan.

Tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin ceir bryn Garn Boduan a'i fryngaer.

Roedd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 wedi cael ei gynnal ym Moduan, o'r 5ed i'r 12fed o Awst.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ D. T. Davies (gol.), Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn (Pwllheli, 1910). Pennod: 'Bodfean'.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato