Neidio i'r cynnwys

Joe Allen

Oddi ar Wicipedia
Joe Allen

Allen yn 2016
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJoseph Michael Allen[1]
Dyddiad geni (1990-03-14) 14 Mawrth 1990 (36 oed)
Man geniCaerfyrddin, Cymru
Taldra1.68m
SafleCanol Cae
Gyrfa Ieuenctid
1997–2000Dinbych-y-pysgod
2000–2007Dinas Abertawe dan 23
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd†(Gôl)†
2007–2012Dinas Abertawe127(7)
2008→ Wrecsam (ar fenthyg)2(1)
2012–2016Lerpwl91(4)
2016–2022Stoke City212(18)
2022–2025Dinas Abertawe69(4)
Cyfanswm501(34)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Cymru dan 1710(1)
2006–2007Cymru dan 194(0)
2007–2011Cymru dan 2114(2)
2009–2025Cymru77(2)
2012Prydain Fawr5(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr o Gymru yw Joe Allen (ganwyd Joseph Michael Allen;14 Mawrth 1990). Bu'n chwarae i glwb Dinas Abertawe yn Uwchgynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru.

Dechreuodd Allen ei yrfa broffesiynol gyda Abertawe ar ôl ymuno ag adran ieuenctid y clwb yn naw mlwydd oed[2]. Llwyddodd i ennill dyrchafiad o'r Adran Gyntaf i Uwchgynghrair Lloegr gydag Abertawe cyn symud i Lerpwl yn 2012 am ffi o £15 miliwn[3].

Yng Ngorffennaf 2016 symudodd Allen i Stoke City am ffi o £13m[4]. Dychwelodd i Abertawe yn 2022.

Roedd Allen yn aelod o garfan Cymru a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016 a cafodd ei enwi yn Nhim y Twrnament gan UEFA[5].

Cyhoeddoedd ei ymddeoliad fel pêl-droediwr ar ddechrau Mai 2025. Chwaraeodd ei gêm olaf i Abertawe ar 3 Mai 2025.[6]

Fe'i urddwyd i'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 gyda'r enw barddol 'Alarch Arberth'.[7]

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Dinas Abertawe

[golygu | golygu cod]

Roedd Allen yn aelod o adran ieuenctid Dinas Abertawe ers yn naw mlwydd oed[2] a gwaneth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn 16 mlwydd oed yn erbyn Port Talbot yn y Gwpan Genedlaethol[8]. Gwnaeth Allen ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair fel eilydd yn erbyn Blackpool ar 5 Mai 2007[9].

Wedi i Abertawe sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn 2008, methodd Allen a sicrhau ei le yn y tîm ac aeth ar fenthyg i Wrecsam[10] lle sgoriodd yn ei ymddangosiad cyntaf cyn anafu ei ffêr yn ei ail gêm a gorfod dychwelyd i'r Swans[11][12].

Chwaraeodd ran allweddol yn ystod tymor 2010-11 welodd Abertawe yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Reading yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley. Ar ddechrau tymor 2011-12, arwyddodd Allen gytundeb newydd gydag Abertawe[13] a chwaraeodd 36 o 38 gêm y clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Lerpwl

[golygu | golygu cod]

Ar 10 Awst 2012 ymunodd Allen â Lerpwl am £15m gan ddilyn y rheolwr, Brendan Rodgers o Abertawe i Anfield[14]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Cochion ar 18 Awst 2012[15] a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb yn erbyn Oldham Athletic yng Nghwpan FA Lloegr.

Stoke City

[golygu | golygu cod]

Ar 25 Gorffennaf 2016, ymunodd Allen â Stoke City ar gytundeb pum mlynedd am ffi o £13m[16]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Enillodd Allen ei gap cyntaf dros Gymru wrth ddod i'r maes fel eilydd yn y fuddugoliaeth dros Estonia ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym Mawrth 2009[17] ac arweiniodd ei wlad am y tro cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin, 2014. Roedd yn aelod o garfan Cymru lwyddodd i gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 a cafodd ei enwi yn Nhîm y Twrnament gan UEFA[5].

Cafodd Allen wobr Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012.[18]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Allen yn briod â Lacey ac mae ganddynt fab o'r enw Archie. Mae brawd Joe, Harry Allen, yn aelod o dîm pêl-droed byddar Cymru ac, o'r herwydd, mae Joe yn llysgennad i'r elusen, Action on Hearing Loss.[19]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Search 1984 to 2006 – Cyfeirlyfr Geni, Priodi a Marw". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2009-06-16.
  2. 1 2 "South Wales Evening Post". 2012-08-01.
  3. ↑ "Liverpoolfc.tv". 2012-08-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-11. Cyrchwyd 2014-05-16.
  4. ↑ "Joe Allen: Stoke City sign Liverpool midfielder in £13m transfer". BBC Sport (yn Saesneg). 2016-07-20. Cyrchwyd 2025-05-03.
  5. 1 2 "UEFA EURO 2016 Team of the Tournament revealed". UEFA. 11 Gorffennaf 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2016.
  6. ↑ "Joe Allen, seren Cymru ac Abertawe, yn ymddeol o bêl-droed". BBC Cymru Fyw. 2025-05-02. Cyrchwyd 2025-05-03.
  7. ↑ "Anrhydeddau 2026: Y Wisg Las". Eisteddfod. Cyrchwyd 7 Awst 2026.
  8. ↑ "Port Talbot 2–1 Swansea (aet)". BBC Sport. BBC Sport. 2007-01-15.
  9. ↑ "Swansea 3–6 Blackpool". BBC Sport. 2007-05-05.
  10. ↑ "Swan Allen joins Wrexham on loan". BBC Sport. 2008-10-07.
  11. ↑ "Wrexham 3–1 York". BBC Sport. 2008-10-07.
  12. ↑ "Joe likely to be out for several weeks". Wrexham F.C. 2008-10-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-25. Cyrchwyd 2016-08-11.
  13. ↑ "Joe Allen spurred by new Swansea City contract". BBC Sport. 2011-08-10.
  14. ↑ "Joe Allen signs for Liverpool FC – LFC News – Liverpool FC". Anfield Online. 2012-08-10.
  15. ↑ "Baggies condemn Reds to nightmare start". ESPN Soccernet. 2012-08-18.
  16. ↑ "Potters Pounce For Allen". Stoke City. 2016-07-25.
  17. ↑ "Wales v. Estonia Welsh Football Online". welshfootballonline.com. 2009-03-30.
  18. ↑ "Sgorio: Joe Allen yw chwaraewr y flwyddyn". s4c.co.uk. 2012-10-09.
  19. ↑ "Welsh football star officially unveiled as charity ambassador". Action on Hearing Loss. actionhearingloss.org.uk. 2015-03-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-08. Cyrchwyd 2016-08-11.