Wonder Woman (ffilm 2017)
Patty Jenkins, Gal Gadot a Lynda Carter yn y première byd-eang | |
| Enghraifft o: | ffilm, ffilm gorarwr |
|---|---|
| Lliw/iau | lliw |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Dyddiad cyhoeddi | 15 Mehefin 2017, 2 Mehefin 2017, 1 Mehefin 2017, 2 Mehefin 2017, 7 Mehefin 2017 |
| Genre | ffilm gorarwr, ffilm llawn cyffro, ffilm antur, ffilm ddrama, ffilm ryfel, ffilm ffantasi |
| Cyfres | Bydysawd Estynedig DC |
| Rhagflaenwyd gan | Suicide Squad |
| Olynwyd gan | Wonder Woman 1984 |
| Cymeriadau | Wonder Woman, Ares, Erich Ludendorff |
| Prif bwnc | y Rhyfel Byd Cyntaf, mytholeg Roeg |
| Lleoliad y gwaith | Themyscira, Llundain, Paris, Gwlad Belg, Yr Almaen |
| Hyd | 141 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | Patty Jenkins |
| Cynhyrchydd/wyr | Charles Roven, Zack Snyder, Deborah Snyder |
| Cwmni cynhyrchu | RatPac-Dune Entertainment, DC Studios, Warner Bros., Tencent Pictures, The Stone Quarry, Wanda Media |
| Cyfansoddwr | Rupert Gregson-Williams |
| Dosbarthydd | Warner Bros., InterCom, Netflix, Xfinity Streampix |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Sinematograffydd | Matthew Jensen |
| Gwefan | https://www.warnerbros.com/movies/wonder-woman/ |
| Sgriptiwr | Allan Heinberg |
| cost | 822,854,286 $ (UDA), 412,845,172 $ (UDA), 103,251,471 $ (UDA) |
| Dynodwyr | |
Mae Wonder Woman yn ffilm archarwr Americanaidd wedi'i seilio ar y cymeriad DC Comics o'r un enw, a ddosbarthir gan Warner Bros. Pictures. Dyma'r bedwaredd gyfrol o Fydysawd Estynedig DC. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Patty Jenkins, gyda sgript ffilm gan Allan Heinberg yn seiliedig ar stori gan Heinberg, Zack Snyder a Jason Fuchs. Yn actio yn y ffilm mae Gal Gadot, Chris Pine, Robin Wright, Danny Huston, David Thewlis, Connie Nielsen ac Elena Anaya.
Wonder Woman oedd yr ail ffilm fyw i gynnwys Wonder Woman fel cymeriad, yn dilyn ei hymddangosiad gyntaf Batman v Superman: Dawn of Justice yn 2016. Jenkins oedd y fenyw gyntaf i gyfarwyddo ffilm archarwr gyda un o'r stiwdios mawr,[1] a'r fenyw gyntaf i gyfarwyddo ffilm gyda chyllideb o fwy na $100 miliwn.[2]
Wedi'i osod yn 1918, mae'r ffilm yn adrodd stori Diana (Gadot), sydd yn cael ei magu ar ynys yr Amasoniaid. Wedi i'r peilot Americanaidd Steve Trevor (Pine) gael damwain a chael ei achub gan Diana, mae ef yn esbonio wrthi fod y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth yn y byd tu hwnt i'r ynys. Mae Diana yn gadael ei chartref er mwyn dod a'r gwrthdaro i ben, gan ddod yn Wonder Woman yn y broses.
Hanes creu
[golygu | golygu cod]Dechreuwyd datblygu'r ffilm ym 1996, gyda Jenkins yn rhan o'r drafodaeth erbyn 2005[3] cyn derbyn swydd y cyfarwyddwr yn 2015. Dechreuodd y prif ffotograffiaeth ar 21 Tachwedd 2015, gyda ffilmio yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, Ffrainc a'r Eidal cyn dod i ben ar 9 Mai 2016. Digwyddodd ffilmio ategol yn Nhachwedd 2016.
Dangoswyd Wonder Woman am y tro cyntaf yn Los Angeles ar 25 Mai 2017 ac fe'i rhyddhawyd ar 2 Gorffennaf. Derbyniodd adolygiadau positif gan feirniaid, gyda nifer yn canmol cyfarwyddiad Jenkins, perfformiadau Gadot a Pine, y sgript a'r gerddoriaeth. Gosododd y ffilm record am yr agoriad ddomestig fwyaf ar gyfer cyfarwyddwr benywaidd ($103.3. miliwn) a'r agoriad mwyaf ar gyfer ffilm archarwr gyda menyw'n brif gymeriad.[4] Fe wnaeth y ffilm dros $822 miliwn ledled y byd; yn y chweched safle ar restr y ffilmiau gyda'r elw mwyaf yn 2017.[5] Cafwyd dilyniant, Wonder Woman 1984, yn 2020.
Plot
[golygu | golygu cod]Ym Mharis, yn y presennol, mae Diana Prince yn derbyn llun o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf gan Bruce Wayne sy'n ei hatgoffa o'i gorffennol.
Fe aned a magwyd Diana ar yr ynys gudd Themyscira, cartref i'r Amasoniaid, hil o ferched rhyfelgar a grewyd gan dduwiau Mynydd Olympus i amddiffyn dynol ryw. Yn y gorffennol pell, lladdodd Ares, duw rhyfel, ei gyd-dduwiau, ond fe'i darwyd i lawr gan ei dad Zews. Cyn ildio i'w anafiadau, gadawodd Zews yr Amasoniaid gydag arf oedd yn gallu lladd ei fab gwrthryfelgar: y 'Duwladdwr' (Godkiller). Mae Diana yn credu taw cleddyf seremonïol yw hyn. Mae'r Frenhines Hippolyta o'r gred na fydd Ares yn dychwelyd ac yn gwahardd Diana rhag hyfforddi fel rhyfelwr, ond mae Diana a'i modryb, y Cadfridog Antiope, yn herio'r frenhines ac yn dechrau hyfforddi yn gyfrinachol. Pan ddarganfu y ddwy gan Hippolyta mae Antiope yn argyhoeddi ei chwaer i ganiatai i hyfforddiant Diana barhau.
Fel menyw ifanc, mae Diana yn achub peilot Americanaidd, Capten Steve Trevor, wedi i'w awyren ddod i lawr ar arfordir Themyscira. Mae'r ynys yn fuan dan ymosodiad gan longau rhyfel yr Almaen sy'n erlyn Steve. Mae'r Amasoniaid yn ymyrryd ac yn lladd yr holl Almaenwyr, ond mae Antiope yn marw tra'n arbed Diana rhag bwled. Dan ddylanwad Dolenraff Hestia (sy'n cymell yr un a glymwyd ganddi i ddweud y gwir), mae Steve yn datgelu bod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynddeirio'r byd allanol, ac ei fod ef yn ysbïwr dros y Cynghreiriaid. Fe gipiodd lyfr nodiadau gyda gwybodaeth gwethfawr gan brif gemegydd Sbaen, Isabel Maru, sydd yn ceisio datblygu ffurf mwy angheuol o nwy mwstard o dan gyfarwyddiadau'r Cadfridog Erich Ludendorff. Gan gredu bod Ares yn gyfrifol am y rhyfel, mae Diana yn arfogi ei hunan gyda'r cleddyf 'Duwladdwr' ac yn gadael Themyscira gyda Steve i ddarganfod a dinistrio Ares.
Pan mae'r ddau yn cyrraedd Llundain, maent yn cyflwyno llyfr nodiadau Maru i'r Cyngor Rhyfel Goruchaf, gan gynnwys Syr Patrick Morgan sy'n ceisio trefnu cadoediad gyda'r Almaen. Mae Diana yn cyfieithu nodiadau Maru ac yn datgelu bod yr Almaenwyr yn cynllunio rhyddhau'r nwy angheuol yn y rhyfel. Er cael ei siarsio gan ei uwch-swyddogion i beidio ymyrryd, mae Steve, gyda chyllideb cyfrinachol gan Syr Patrick, yn recriwtio'r ysbiwr Sameer, y saethwr Charliw, a'r smyglwr Chief i helpu atal y nwy rhag cael ei ryddhau. Pan mae'r tim yn cyrraedd y Ffrynt Gorllewinol yng Ngwlad Belg, maent yn cael eu hatal gan linellau'r gelyn, ond mae Diana yn gwthio drwy Dir Neb ac yn ysbrydoli lluoedd y Cynghreiriaid i ailgipio pentref Veld. Mae'r tim yn dathlu ac yn tynnu'r ffotograff a welodd Diana ar ddechrau'r ffilm. Yn hwyrach y noson honno mae Diana a Steve yn closio ac yn rhannu cusan.
Mae'r tîm yn dysgu bod gala yn digwydd ym mhencadlys yr Almaenwyr gerllaw. Mae Steve yn sleifio i mewn i'r parti, gan fwriadu canfod y nwy a'i ddinistrio. Ond cred Diana mai Ludendorff yw Ares ac y bydd y Rhyfel yn dod i ben wrth ei ladd. Mae Steve yn ei hatal rhag ofn iddi beryglu ei dasg ef. Mae Ludendorff yn rhyddhau'r nwy ar Veld, gan lladd ei thrigolion. Mae Diana yn beio Steve am ymyrryd ac yn dilyn Ludendorff at wersyll lle mae'r nwy yn cael ei lwytho ar long awyr sy'n anelu am Lundain. Mae Diana yn ymladd Ludendorff a'i ladd, ond mae'n drysu pan nad yw hyn yn dod â'r rhyfel i ben.
Mae Syr Patrick yn ymddangos ac yn datgelu taw ef yw Ares. Mae'n dweud wrth Diana ei fod wedi rhoi syniadau treisgar i ddynol ryw, ond yn y pendraw taw penderfyniad dynion yw hi i ymddwyn yn dreisgar a'u bod yn llygredig yn y bôn. Mae Ares yn dinistrio'r cleddyf ac yn dweud wrth Diana mai hi yw'r gwir 'Dduwladdwr' gan mai hi yw merch Zews. Ceisia berswadio Diana i'w helpu ef i ddinistrio dynol ryw ac i adfer y Ddaear fel paradwys. Tra mae'r ddau yn brwydro, mae gweddill tim Steve yn dinistrio labordy Maru. Mae Steve ei hun yn llywio awyren sy'n cario'r nwy at uchder diogel ac yn ei ffrwydro, gan aberthu ei hun yn y broses. Mae Ares yn ceisio harnesi dicter a galar Diana i'w hargyhoeddi i ladd Maru, ond mae atgofion Diana o Steve yn ei hysbrydoli i benderfynu bod daioni yn bodoli o fewn dynol ryw, ac mae hi'n arbed Maru cyn dinistrio Ares. Yn Llundain, mae'r genedl yn dathlu diwedd y rhyfel.
Yn y presennol, mae Diana yn danfon e-bost at Bruce Wayne yn diolch iddo am y llun ohoni hi a Steve ac yn cadarnhau ei nod o amddiffyn y byd fel Wonder Woman.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cornish, Leah (16 Mai 2017). "What a Feminist Superhero Like Wonder Woman Can Teach the Next Generation". Glamour (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Patty Jenkins - Sundance Collab". collab.sundance.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Review: Wonder Woman defies the warring bores". BFI (yn Saesneg). 2018-06-20. Cyrchwyd 2026-07-26.
- ↑ D'Alessandro, Anthony (2017-06-05). "'Wonder Woman' Breaks Glass Ceiling For Female Directors & Stomps On 'Iron Man' With $103.1M Debut – Monday AM Update". Deadline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-26.
- ↑ "Wonder Woman". Box Office Mojo. Cyrchwyd 2026-07-26.